Platfform at Wales Millennium Centre
Am Platfform:
Dewch i Ganolfan Mileniwm Cymru i ddarganfod Platfform. Rydyn ni yma i danio’ch dyfodol drwy ofodau creadigol a hyfforddiant dan arweiniad pobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Dim ots a yw’ch diddordeb chi yn y byd radio neu os ydych chi eisiau rhoi cynnig ar greu ffilmiau neu theatr Hip-hop, os ydych chi awydd actio neu ysgrifennu, neu os ydych chi’n anelu i fod yn artist digidol neu’n hyrwyddwr cerddoriaeth – rydyn ni yma i chi. Rydyn ni’n cynnig cyrsiau, hyfforddiant a digwyddiadau am ddim sy'n eich galluogi i archwilio ffurfiau newydd ar gelfyddyd, i ddatblygu sgiliau newydd, i fireinio'ch ymarfer ac i ddatblygu’ch gyrfaoedd creadigol.
About Platfform:
Discover Platfform at Wales Millennium Centre. We're here to fuel your future through creative spaces and training led by young people for young people. Whether you have a passion for radio, want to try your hand at filmmaking or Hip-hop theatre, fancy acting or writing, or are an aspiring digital artist or music promoter, we’ve got you. We offer free courses, training and events that let you explore new artforms, develop new skills, hone your practice and level up your creative careers.